Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg | Inquiry into Welsh in Education Strategic Plans

 

WESP 27

Ymateb gan : Carys Swain

Response from : Carys Swain

Cwestiwn 1

Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu at y deilliannau a’r targedau a nodir yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru?

I raddau ond ar y cyfan nid yw’r cyfraniad yn ddigonol ar gyfer yr hyn sydd ei angen.

Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu ddigon, sut y gellir datrys hyn?

Mae angen sicrhau:

·         nad yw’r awdurdodau yn trin y Gymraeg yn llai ffurfiol na’r Saesneg  

·         bod mynediad i addysg Gymraeg yr un modd hawdd ag yw e i addysg cyfrwng Saesneg

·         Bod cynllunio hir dymor yn ei le, a bo’r awdurdod yn cadw at eu gair wrth ymrywmo I unrhyw gynllun

Cwestiwn 2

Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau’r newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol, neu a allant wneud hynny (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer unrhyw gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg)?

Nac ydyn

Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau newidiadau, neu na allant wneud hynny, sut y gellir datrys hyn?

Efallai y gallai’r Llywodraeth gymryd rhan mwy blaenllaw yn y cyfarfodydd? – e.e. sicrhau fod gweithiwr sifil yn bresennol yn y cyfarfodydd a bod rheolau/canllawiau penodol, fel na bo modd i’r awdurodod esgeuluso ac anwybyddu eu cyfrifoldebau o ran darparu addysg cyfrwng Cymraeg.  Byddai presenoldeb o’r Llywodraeth yn sicr o gael mwy o effaith nag unrhyw adroddiad ar bapur.

Cwestiwn 3

Beth yw eich barn ar y trefniadau ar gyfer pennu targedau; monitro; adolygu; cyflwyno adroddiadau; cymeradwyo a chydymffurfio â gofynion Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn)?

Diffyg cysondeb yn gyffredinol.

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

·         Cynnig addysg ddwyieithog gyflawn i bob plentyn o oed meithrin hyd at y cyfnod Sylfaen

·         Cyflwyno’r Gymraeg fel cyfrwng mewn rhai pynciau mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg – oed 7 -11

·         Parhau i gynnig rhai pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion uwchradd Saesneg (h.y. a hynny’n orfodol i bawb)

 

Cwestiwn 4

Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlygu rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol eraill*?
(*er enghraifft, polisi cludiant ysgolion; rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain; y datganiad polisi - Iaith fyw:iaith byw; Dechrau’n Deg; polisi cynllunio)?

Nac ydyn

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

Sicrhau mwy o fewnbwn uniongyrchol gan y Llywodraeth ym mhob cyfarfod

Cwestiwn 5

Yn eich barn chi, a yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl, gan gynnwys er enghraifft, disgyblion cynradd / uwchradd; plant o gartrefi incwm isel?

Nac ydyn

Os ydych o’r farn nad yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg, sut y gellir datrys hyn?

Does dim digon o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Sir rwy’n byw ynddi i scrhau canlyniadau teg. 

Cwestiwn 6

Os byddai'n rhaid ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o'r holl bwyntiau rydych wedi'u nodi, beth fyddai'r argymhelliad hwnnw?

Sicrhau mwy o fewnbwn uniongyrchol gan y Llywodraeth ym mhob cyfarfod

Cwestiwn 7

A oes gennych unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi na soniwyd amdanynt yn y cwestiynau penodol?